Cyn i adolygiad o Gwricwlwm ysgolion Cymru gael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf, mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio y byddai Llywodraeth Cymru yn “colli cyfle hanesyddol” os nad oes newid yn y drefn.
Mae’r mudiad yn dadlau y dylai pob ysgol yng Nghymru ddysgu rhai pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg, er mwyn sicrhau bod holl bobol ifanc Cymru yn gadael yr ysgol yn medru cyfathrebu yn Gymraeg.
Yr Athro Graham Donaldson, darlithiwr Addysg ym Mhrifysgol Glasgow, sydd wedi ei benodi i gynnal yr adolygiad ac fe fydd yn ystyried adroddiad annibynnol gan yr Athro Sioned Davies o 2013 – lle cafodd y system addysg Gymraeg Ail Iaith bresennol ei beirniadu.
Dangosodd arolwg barn bod mwyafrif clir o bobol Cymru eisiau gweld disgyblion yn gadael yr ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg â’r Saesneg.
‘Amddifadu disgyblion’
Dywedodd Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Siom mawr i ni oedd nad oedd y llywodraeth wedi gweithredu argymhellion yr Athro Davies yn rhan gyntaf yr Adolygiad Cwricwlwm ar Lythrennedd a Chyfathrebu y llynedd.
“Yn hytrach, trosglwyddwyd y cyfan i adolygiad Donaldson edrych unwaith eto arno, ac yn y cyfamser, mae’r cwricwlwm yn parhau i amddifadu mwyafrif ein disgyblion o’r sgil addysgol hanfodol i fedru cyfathrebu a gweithio yn nwy iaith Cymru.”
Ychwanegodd: “Er mwyn hybu datblygiadau mawr fel y rhain y sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a disgwyliwn gynigion blaengar.
Cynnwys
Yn ogystal â chyflwyno newid yn iaith y cwricwlwm mae’r Gymdeithas o’r farn y dylai’r Llywodraeth ychwanegu at y cynnwys:
“Rydyn ni wedi gweithredu arolwg yn ystod y mis diwethaf o ddisgyblion ysgol, ac mae’r canlyniadau yn dangos yn glir nad yw’r cwricwlwm presennol yn eu dysgu fawr ddim am ddatblygiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru nac am bynciau gwleidyddol fel llymder.
“Nid yw’r cwricwlwm chwaith yn meithrin ynddyn nhw ddealltwriaeth o sut i ddylanwadu ar Gynlluniau Datblygu Lleol nac ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae angen i’r cwricwlwm newydd fod yn siarter ar gyfer democratiaeth fywiog yn y ddwy iaith, yn hytrach na bod yn gynnyrch gwasanaeth sifil ceidwadol.”