Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi cyhoeddi y bydd yn rhannu dros £3.8 miliwn i brosiectau sy’n darparu gweithgareddau allgymorth a lles, cefnogaeth iechyd meddwl a gweithgareddau i gynyddu sgiliau pobl ifanc ddifreintiedig.

Bydd 11 o brosiectau ar draws Cymru’n rhannu’r arian ddyfarnwyd trwy rhaglen Pawb a’i Le’r Gronfa Loteri Fawr.

Ymysg y prosiectau fydd yn derbyn rhan o’r arian mae YMCA Abertawe yn cael £239,923 i gefnogi pobl ifanc ddifreintiedig y ddinas. Bydd hyn yn cynnwys creu rhwydweithiau cymunedol a chymdeithasol, gweithgareddau i wella hunan-barch, cyfleoedd cyflogaeth a darparu cyngor ar fyw’n iach.

Bydd Cymdeithas Tai Newydd yng Nghaerdydd yn defnyddio £238,888 i gyflwyno prosiect yn darparu gwasanaeth cefnogaeth un i un, gweithdai a gweithgareddau ymyrraeth i wella iechyd a lles cyffredinol pobl.

Helpu troseddwyr

Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd HAFAL yn derbyn £489,958 ar gyfer creu cwrs chwe wythnos a fydd yn eu helpu troseddwyr i dorri’r cylch troseddu a chyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau.

Yng Ngheredigion, bydd HUTS (Help Us to Survive) yn defnyddio £402,946 i gyflwyno gweithgareddau ‘bod yn gyfaill’ ar draws Ceredigion, yn ogystal â gweithgareddau allgymorth ar draws siroedd Ceredigion, Sir Gâr a Sir Benfro i geisio gwella iechyd, lles, datblygiad cymdeithasol a hyder pobl sydd ag anawsterau iechyd meddwl.

Wrth amlygu pwysigrwydd rhaglen Pawb a’i Le, dywedodd Rona Aldrich, Aelod o Bwyllgor Cymru’r Gronfa Loteri Fawr: “Mae rhaglenni fel Pawb a’i Le’n gwneud gwahaniaeth i fywydau cynifer o bobl mewn cymunedau ar draws Cymru.

“Mae’n cyflwyno ar ein haddewid i ddefnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adfywio ac adnewyddu cymunedau, mynd i’r afael yn uniongyrchol ag anfantais a gadael etifeddiaeth a fydd yn parhau.”

Mae’r rhaglen Pawb a’i Le yn dyfarnu grantiau rhwng £5,001 ac £1 miliwn ar gyfer amrywiaeth eang o brosiectau cymunedol.  Mae rhagor o wybodaeth at gael yn: www.cronfaloterifawr.org.uk