Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi amddiffyn cynyrchiadau teithiol yn dilyn sylwadau a wnaed gan gyfarwyddwr Theatr yn Yr Wyddgrug.

Mae Terry Hands ar fin ymddeol fel cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru a dywedodd wrth y BBC bod angen mwy o theatrau sy’n cynhyrchu mwy o sioeau yn hytrach na dibynnu ar gynyrchiadau sy’n teithio.

Dywedodd fod polisi Cyngor Celfyddydau Cymru wastad wedi bod o blaid cynyrchiadau sy’n teithio oherwydd ei fod yn edrych yn rhatach ar bapur.

Ond dywedodd llefarydd ar ran cyngor Celfyddydau Cymru mai cynyrchiadau teithiol yw unig gyfle llawer o bobl i brofi theatr broffesiynol a’u bod nhw’n teimlo “cyfrifoldeb arbennig” i bobl ar draws Cymru gyfan.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: “Mae Terry Hands wedi cael llwyddiant ysgubol yng Nghlwyd Theatr Cymru ac mae ansawdd y gwaith o dan ei stiwardiaeth yn siarad drosto’i hun.

“Fodd bynnag, i’r cynulleidfaoedd hynny nad ydynt yn gallu teithio i’r Wyddgrug , cynyrchiadau teithiol yw eu hunig gyfle yn aml i brofi theatr broffesiynol. Fel corff cenedlaethol sydd yn dosbarthu arian trethdalwyr Cymru , teimla Cyngor y Celfyddydau gyfrifoldeb arbennig i bobl ar draws Cymru gyfan.

“Dyma pam yr ydym yn cefnogi dau gwmni cynhyrchu wedi ei lleoli mewn canolfan yn ogystal â Chlwyd Theatr Cymru – Sherman Cymru yng Nghaerdydd a Theatr y Torch yn Aberdaugleddau – yn ogystal ag ystod amrywiol o theatr teithiol arobryn.”