Mae cyd-sylfaenydd creision Jones o Gymru wedi annog cymuned fusnes gogledd Cymru i noddi cystadleuaeth hwylio, ar ôl iddyn nhw fod y cwmni lleol cyntaf i fod yn bartner swyddogol i Bencampwriaethau Cychod Hwylio Optimist Ewrop ym Mhwllheli.

Bydd tua 250 o hwylwyr ifanc gorau’r byd o dros 45 o wledydd yn cystadlu yn y digwyddiad cyntaf i’w gynnal yng Nghanolfan Academi Hwylio Cenedlaethol a Digwyddiadau Plas Heli rhwng Gorffennaf 17 a 24.

Ac mae Geraint Hughes o’r cwmni creision yn credu ei bod yn ddyletswydd ar fusnesau lleol i helpu sicrhau bod y bobl ifanc fydd yn cystadlu yn dychwelyd adre yn fwy ymwybodol o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Bydd Jones o Gymru, sy’n defnyddio tatws wedi eu tyfu yng Nghymru a’u halltu â Halen Môn, yn darparu pecynnau bwyd ar gyfer y 110 o wirfoddolwyr a fydd yn gweithio yn y digwyddiad.

Mae Geraint Hughes yn galw ar  fusnesau lleol eraill i fanteisio ar y “fraint” o groesawu dwsinau o wledydd a channoedd o gystadleuwyr i ddigwyddiadau mawr ym Mhwllheli.

Meddai:  “Mae’r ardal yn ennill enw da am gynnal digwyddiadau gwych ac mae cynnal Pencampwriaethau Optimist Ewrop yn bleidlais gadarn o hyder ym Mhwllheli. Bydd pawb a fydd yn dod yma yn rhyfeddu at yr etifeddiaeth sydd ganddon ni ym Mhwllheli ond mae’n stori mor wych, rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn ei hadrodd hi.”

Cyfle i fusnesau cynhenid

“Os na fydd busnesau lleol yn penderfynu bod yn rhan o ddigwyddiadau fel Pencampwriaethau Optimist Ewrop, yna ddylen ni ddim beirniadu busnesu o’r tu allan i’r ardal am gymryd mantais o’r sefyllfa ac arwain y ffordd. Rydyn ni’n falch o weld bod y trefnwyr mor frwd dros gynnwys ac ymglymu’r gymuned leol.

“Gall a dylai digwyddiad mor fawr â hwn adael gwaddol ar ei ôl. Ond dim ond os bydd pobl a busnesau yn rhan ohono fydd hynny’n digwydd.”

Dywedodd Stephen Tudor, Cadeirydd Plas Heli: “Mae cynnal digwyddiad yn llawer ehangach na’r rasio yn unig, rydych chi am i’r cystadleuwyr a’u cefnogwyr adael gan deimlo bod ganddyn nhw gysylltiad agos â’r lleoliad ac y byddan nhw’n siarad amdano yn gadarnhaol am flynyddoedd i ddod.

“Rydyn ni wrth ein bodd cael croesawu busnes lleol, creision Jones o Gymru fel partner swyddogol i’r digwyddiad a’r gobaith ydy mai nhw ydy’r cyntaf o blith llawer a fydd yn ymuno â ni.”

I gael gwybod sut i noddi Pencampwriaethau Optimist Ewrop, cysylltwch â marketing@optimisteuros2015.com