Vladimir Putin yw Arlywydd Rwsia
Nid oes gan gwledydd Ynysoedd Prydain y gallu i amddiffyn eu hunain rhag awyrennau Rwsia.
Dyna rybudd cyn-gyfarwyddwr amddiffyn yr RAF wedi i ddwy awyren fomio o Rwsia gael eu gweld yn hedfan uwchben y môr ger arfordir Cernyw yn gynharach yn yr wythnos.
Yn ôl y Comodor Andrew Lambert fe fyddai awyrennau jet Prydain yn cael eu “gorchfygu” mewn ymosodiad gan Rwsia, a hynny am nad oes digon ohonyn nhw.
Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd Syr Michael Graydon cyn-Arweinydd yr RAF: “Mae nhw [Rwsiaid] yn gwybod fod hyn yn bryfoclud ac maen nhw’n ei wneud ar adeg pan mae’r amddiffyniad yn y gorllewin yn eitha’ gwan o gymharu â’r hyn roedd yn arfer bod.”
Ond yn ôl David Cameron mae’r digwyddiad ddechrau’r wythnos yn “profi fod ganddon ni awyrennau jet cyflym, y peilotiaid, y drefn yn ei lle i amddiffyn Ynysoedd Prydain.
“Rwy’n amau mae’r hyn sy’n digwydd yw bod Rwsia yn ceisio gwneud rhyw fath o bwynt a ddylen ni ddim dilysu’r digwyddiad trwy ymateb yn ormodol.”