Bu i wyliwr Eastenders yn Llundain sgrechian mor uchel yn ystod penllanw stori am lofruddio ar yr opera sebon neithiwr, nes i’r heddlu gael eu galw yno gan gymdogion.

Credir bod miliynau wedi gwylio’r rhaglen neithiwr er mwyn darganfod mae’r cymeriad ‘Bobby Beale’ laddodd ei hanner chwaer ‘Lucy’.

Dyma un o straeon mwya’ gafaelgar Eastenders erioed, ac mae’r Sarjant Richard Berns o Hackney yn nwyrain Llundain wedi disgrifio’r alwad am gymorth adeg yr uchafbwynt ar ei gyfrif trydar:

‘Bu i ddynes sgrechian mor uchel wedi i lofrudd Lucy Beale gael ei ddatgelu, fe ffoniodd ei chymdogion yr heddlu. Popeth yn iawn erbyn hyn…’