Mae dioddefwyr cam-drin domestig yng ngogledd Cymru yn cael eu hannog i ofyn am gymorth ar Ddydd Sant Ffolant yfory.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn defnyddio’r diwrnod fel cyfle i annog y rhai sydd mewn perthynas dreisgar i’w riportio cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Gall camdriniaeth ddomestig fod yn ddinistriol yn ôl yr heddlu, ac mae’n digwydd ar draws yr ardal a hynny gan amlaf y tu ôl i ddrysau caeëdig.

Mae un ddynes ym mhob pedair, ac un ym mhob chwe dyn, wedi diodde’ trais domestig.

‘Byth yn iawn’

Yn ôl y Ditectif Uwch-arolygydd Jo Williams, sydd yn gyfrifol am adran diogelu’r cyhoedd yn Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw’n defnyddio dydd nawddsant y cariadon “er mwyn codi ymwybyddiaeth, gwneud i bobl ailasesu eu perthnasau ac os oes angen, gwneud rhywbeth amdano”.

Ychwanegodd: “Tydi o byth yn iawn a does dim esgus amdano. Buasem yn annog unrhyw un i gymryd y camau cychwynnol er mwyn rhyddhau eu hunain rhag dioddef rhagor, a gofyn am gymorth.

“Mae’n drosedd ddifrifol sy’n gallu cael effaith ddifrifol a hirdymor ar ddioddefwyr. Rydym wedi llwyr ymroi i sicrhau cyfiawnder i’r rhai hynny sy’n cael eu heffeithio.”

Mae cymorth a chyngor ar gael trwy’r llinell gymorth camdriniaeth yn y cartref 24 awr. Gellir cysylltu â’r linnell gymorth ar 0808 90 10 800.