Ni fydd prop tîm rygbi Cymru, Samson Lee, yn chwarae yn y gêm ddydd Sul yn erbyn yr Alban.
Er i Warren Gatland gyhoeddi ddydd Mercher y byddai’n rhan o’r tîm fydd yn teithio i stadiwm Murrayfield, dywedodd Undeb Rygbi Cymru heddiw nad yw Samson Lee yn holliach ar ôl derbyn cnoc i’w ben yn y gêm yn erbyn Lloegr wythnos ddiwetha’.
Mae’n debyg nad oedd yn medru cwblhau camau olaf y broses ffitrwydd sy’n rhaid ei chwblhau ar ol i chwaraewr dderbyn anaf i’w ben.
Aaron Jarvis o’r Gweilch fydd yn cymryd ei le.
Mae Warren Gatland hefyd wedi cyhoeddi fod George North wedi cael ei adael allan o dîm Cymru i wynebu’r Alban oherwydd anaf. Liam Williams fydd yn dechrau yn ei le.