Fred Talbot
Mae Fred Talbot, 65, wedi ei gael yn euog o gyfres o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn dau o blant yn eu harddegau.
Cafwyd y dyn tywydd yn euog o gam-drin y ddau fachgen pan oedd yn athro Bioleg yn Ysgol Ramadeg Altrincham, yn Llys y Goron Manceinion,
Ond fe’i cafwyd yn ddieuog o droseddau rhyw yn erbyn tri bachgen arall.
Yr achos
Roedd yr erlynydd yn dweud bod y nodweddion a wnaeth Fred Talbot yn gyflwynydd teledu mor llwyddiannus ynghyd â’i “bersonoliaeth fyrlymus” wedi cael eu defnyddio hefyd i ddenu bechgyn ifanc.
Clywodd y llys ei fod “wedi gwirioni” gyda bechgyn ifanc trwy gydol ei yrfa.
Un o dystion yn yr achos oedd canwr The Stone Roses, Ian Brown, a ddywedodd ei fod yn cofio Fred Talbot yn gofyn i ddosbarth o blant 11 oed oedd o’n rhan ohono, os oedden nhw erioed wedi pleseru eu hunain.
Ychwanegodd fod y cyflwynydd hefyd wedi dangos ffilm bornograffig i ddosbarth arall.
Bu Fred Talbot yn dysgu Bioleg yn yr ysgol ym Manceinion tan 1984.
Bydd yn cael ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 13 Mawrth.