Carl Sargeant
Mae Llafur Cymru wedi cyhoeddi heddiw y byddai’r hawl i drwyddedu ffracio yn cael ei ddatganoli pe bai’r blaid yn ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Oherwydd y cyhoeddiad mae Carl Sargeant, Gweinidog Cynllunio Llywodraeth Cymru, wedi penderfynu gohirio pob prosiect ffracio yng Nghymru am y tro – gan gynnwys gwahardd pob awdurdod lleol yng Nghymru rhag rhoi caniatâd cynllunio i ffracio.
Gwnaethpwyd y cyhoeddiad ym Mro Morgannwg heddiw cyn cynhadledd flynyddol Llafur Cymru yn Abertawe dros y penwythnos.
Dywedodd Carl Sargeant AC ei fod yn parhau i gredu bod ansicrwydd am y dechnoleg a’r prosesau sydd ynghlwm â ffracio.
Meddai: “Byddaf nawr yn cryfhau’r sefyllfa honno ac yn atal unrhyw awdurdod cynllunio lleol rhag cymeradwyo unrhyw gais cynllunio ar gyfer ffracio.
“Fel cam cyntaf, byddaf yn ysgrifennu at yr holl awdurdodau lleol i’w gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybod i mi am unrhyw gais cynllunio, ac felly yn gosod moratoriwm ar ffracio yng Nghymru.
Ychwanegodd: “Mae’r cyhoeddiad gan y Blaid Lafur Brydeinig heddiw y byddant yn datganoli pwerau trwyddedu ffracio ar ôl yr etholiad ym mis Mai yn rhoi mwy o reolaeth ar fater hanfodol a strategol bwysig i Gymru.”