Mae arolwg newydd wedi datgelu fod dynion priod yn gwario fwy o arian ar anrhegion dydd San Ffolant eu cariadon nag ar rai eu gwragedd.

Cafodd 2,000 o ddynion eu holi gan wefan IllicitEccounters.com gyda’r arolwg yn datgelu fod dynion yn gwario tua £147.60 ar anrhegion fel champagne neu siocled i’w cariadon o’i gymharu â £120 ar anrhegion mwy ymarferol, fel ffôn neu bwrs, i’w gwragedd.

Ar drothwy un o ddyddiau mwyaf rhamantus y flwyddyn, ar ôl Dydd Santes Dwynwen, mae arolwg hefyd wedi dangos nad yw bobol Prydain yn hoffi gwneud gormod o sbloets gyhoeddus ar y diwrnod.

Yn hytrach na derbyn blodau yn y swyddfa neu neges dros wefan gymdeithasol , maen nhw’n ffafrio gweithredoedd cariadus preifat fel brecwast yn y gwely, yn ôl gwefan workshopplay.co.uk.