Mae Taylor McDonnell wedi ei chael yn ddieuog o’r cyhuddiad o ladd gŵr a gwraig oedrannus drwy yrru’n beryglus yn ne Cymru.

Bu’r ferch 21 oed yn sefyll ei phrawf yn Llys y Goron Casnewydd ers dechrau’r wythnos, gyda’r erlyniad yn honni nad oedd hi’n canolbwyntio ar y ffordd o’i blaen a’i bod yn sgwrsio  ar ei ffôn symudol wrth yrru.

Ond roedd Taylor McDonnell wedi mynnu nad oedd modd osgoi Denis a Joyce Drew, y ddau’n 86 oed, wedi iddyn nhw gerdded i ganol y ffordd wrth iddi yrru ger Pontir ym mis Tachwedd 2013.

Bu farw Joyce Drew yn Ysbyty Brenhinol Gwent oriau’n unig ar ôl y ddamwain a bu farw Denis Drew chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Cafwyd McDonnell yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus ac yn ddieuog o achosi marwolaeth drwy yrru’n esgeulus.