Candelas
Mae label recordio I Ka Ching wedi rhyddhau fideo newydd gan y band Candelas.

Cafodd y fideo o gân ‘Brenin Calonnau’ sydd oddi yr albwm newydd, Bodoli’n Ddistaw, ei ffilmio’n fyw yn ystod y noson lansio’r albwm yn Neuadd Buddug, Y Bala.

Mae’r Candelas wedi cael eu henwebu am dair wobr yng Ngwobrau’r Selar eleni – y gwaith celf orau am yr albwm Bodoli’n Ddistaw; fideo cerddoriaeth gorau am fideo’r gân ‘Cynt a’n Bellach’; a’r band gorau ble mae nhw’n erbyn Sŵnami ac Y Ffug.