Mae sêr yr 1980au wedi talu teyrngedau i’r New Romantic Steve Strange ar ôl iddo farw o drawiad ar y galon ar wyliau yn yr Aifft.
Daeth y canwr 55 mlwydd o Gymru i enwogrwydd yn yr 1980au cynnar pan oedd yn canu i’r band Visage. Cân enwocaf y band oedd Fade To Grey.
Fo hefyd oedd tu ôl i’r Blitz Club yn Soho, Llundain – clwb nos oedd yn ganolbwynt i symudiad New Romantic.
Bu farw Steve Strange yn ei gwsg am 11:15 mewn ysbyty yn Sharm el Sheikh yn yr Aifft, dywedodd ei label recordio.
Cafodd Steve Strange ei eni fel Steven John Harrington yn Nhrecelyn, Sir Fynwy.
Dechreuodd ei gariad at gerddoriaeth wedi iddo weld y Sex Pistols mewn cyngerdd yng Nghastell Caerffili yn 1976.
Pan oedd yn 15 mlwydd oed, symudodd i Lundain er mwyn gweithio i reolwr y Sex Pistols Malcolm McClaren cyn iddo sefydlu clwb nos Blitz oedd yn cyflogi Boy George ifanc yn y stafell gotiau.
Ar ôl i’r newyddion am ei farwolaeth dorri, cafodd ei ddisgrifio ar Twitter fel: “Cwmni doniol a hollol boncyrs yn y ffordd mwyaf annwyl”.
Dywedodd y canwr Billy Idol ei bod hi’n “drist iawn clywed am fy ffrind Steve Strange yn marw.”