Kim Jong Un
Mae ffilm ddadleuol am gynllwyn i ladd arweinydd Gogledd Corea Kim Jong Un wedi llwyddo i ddenu’r tyrfaoedd, gan wneud elw o fwy na chwarter miliwn o bunnoedd yn ei wythnos gyntaf ym Mhrydain.

Cafodd The Interview ei chanslo ym mis Rhagfyr y llynedd, ar ôl i hacwyr fygwth cynnal ymosodiadau brawychol ar sinemâu oedd yn dangos y ffilm.

O ganlyniad fe benderfynodd Sony ganslo dangosiadau o’r ffilm yn yr Unol  Daleithiau cyn gwneud tro pedol cyn y Nadolig yn dilyn pwysau gwleidyddol.

Roedd yr FBI wedi cyhuddo  Gogledd Corea o hacio cyfrifiaduron Sony.

Mae ffigyrau gan y Sefydliad Ffilm Brydeinig yn dangos fod y ffilm wedi gwneud elw o £283,811 mewn 287 o sinemâu yn ystod ei wythnos gyntaf ym Mhrydain.