Mae’r cylchgrawn cerddoriaeth cyfoes Y Selar wedi cyhoeddi rhestrau byr llawn Gwobrau’r Selar ar gyfer eleni.

Bydd enillwyr pob un o’r 12 categori’n cael eu datgelu yng ngŵyl fawreddog Gwobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 21 Chwefror.

Mae dau o brif enillwyr y Gwobrau llynedd, Candelas a Sŵnami, unwaith eto’n amlwg iawn ar y rhestrau eleni ac wedi cyrraedd tair rhestr fer yr un.

Wedi dweud hynny, mae rhai o’r bandiau mwy newydd yn amlwg wedi creu argraff yn 2014 ac yn barod i gystadlu gyda’r enwau mwy sefydledig – mae Y Ffug ac Yr Eira hefyd wedi eu rhestru ar dair rhestr fer yr un.

Enw arall amlwg ar y rhestrau byr ydy cyn ganwr Frizbee, Ywain Gwynedd, a ryddhaodd ei albwm unigol cyntaf yn 2014.

Brwydrau diddorol

“Roedd 2014 yn flwyddyn ddiddorol gydag amrywiaeth eang o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau,” meddai Golygydd Y Selar, Gwilym Dwyfor.

“Mae’r rhestrau byr yn adlewyrchu hynny i raddau gyda rhai o’r bandiau iau yn dechrau cystadlu benben â’r rhai sydd eisoes wedi gwneud eu marc.

“Mae ‘na gwpl o’r rhestrau byr yn dal y llygad yn arbennig – mae wedi bod yn flwyddyn arall dda o ran artistiaid newydd, ac mae gen i ddiddordeb mawr gweld pwy o Tymbal, Ysgol Sul a Fleur de Lys fydd yn mynd â theitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau. Mae dau o’r tri’n perfformio yn y Gwobrau felly gobeithio na fydd gormod o gythraul canu!”

“Un arall o’r uchafbwyntiau wrth gwrs ydy gwobr y ‘Band Gorau’ a digwydd bod mae’r tri sydd ar y rhestr fer – Candelas, Sŵnami ac Y Ffug – yn perfformio yn y Gwobrau. Er yn bwysig ac yn golygu tipyn i’r artistiaid, rhan gymharol fach o’r digwyddiad ei hun ydy cyflwyno’r Gwobrau ond gyda 13 o artistiaid gorau’r sin yn perfformio eleni mae’n addo bod yn dipyn o achlysur.”

Categori newydd

Mae’r Selar hefyd wedi cyhoeddi bod categori newydd ‘Offerynnwr Gorau’, a noddir gan Goleg Ceredigion, yn cael ei ychwanegu at y rhestr o wobrau eleni, gyda’r enillydd cyntaf i’w ddatgelu yn y digwyddiad ar 21 Chwefror.

“Mi wnaethon ni ofyn i’r cyhoedd awgrymu categorïau newydd y gallem ni fod yn eu cyflwyno, a penderfynodd panel Gwobrau’r Selar bod Offerynnwr Gorau’n gyfle i dalu teyrnged i’r cerddorion hynny sydd efallai ddim mor amlwg ar y llwyfan, ond sydd â sgil arbennig,” meddai Gwilym Dwyfor.

“Y panel sydd wedi dewis enillydd eleni, ond y bwriad ydy ychwanegu’r categori at y bleidlais gyhoeddus y flwyddyn nesaf.”

Mae tocynnau Gwobrau’r Selar yn gwerthu’n arbennig o dda ac mae disgwyl i dros 600 o bobl fod yn y Gwobrau yn Aberystwyth. Maent ar werth ar-lein o wefan Sadwrn.com ac o nifer o siopau lleol a chenedlaethol. Mwy o fanylion ar wefan Y Selar – http://www.y-selar.com

Dyma’r enwebiadau yn llawn:

Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg) / Best EP o’r Single

Cofiwch Dryweryn – Y Ffug; Colli Cwsg – Yr Eira; Cynnydd / Gwenwyn – Sŵnami

Cân Orau (Noddir gan Ochr 1)

Neb ar Ôl – Yws Gwynedd ; Cariad Dosbarth Canol Cymru – Y Ffug; Trysor – Yr Eira

Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)

Arthur – Plu; Colli Cwsg – Yr Eira; Bodoli’n Ddistaw – Candelas

Hyrwyddwyr Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)

Gŵyl Gwydir; 4 a 6 ; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan Heno)

Lisa Gwilym ; Dyl Mei; Griff Lynch

Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo)

Kizzy Crawford; Yws Gwynedd; Casi Wyn

Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn)

Gŵyl Crug Mawr; Maes B ; Gŵyl Gwydir

Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C) Cynt a’n Bellach – Candelas; Gwenwyn – Sŵnami ; Deud y Byddai’n Disgwyl – Cowbois Rhos Botwnnog

Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)

Codi / \ Cysgu – Yws Gwynedd; Bodoli’n Ddistaw – Candelas; Codi’n Fore – Bromas

Band neu Artist Newydd Gorau (Noddir gan BBC Radio Cymru)

Fleur de Lys; Tymbal; Ysgol Sul

Band Gorau (Noddir gan Gorwelion)

Candelas ; Sŵnami; Y Ffug

Categori newydd: Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion)

Enillydd i’w gyhoeddi ar y noson