Mae dyn yn ei 30au wedi marw ar ôl cael ei arestio gan yr heddlu yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y dyn ei arestio yn Stryd Cowell yn Llanelli ddydd Sul a bu farw’n fuan wedyn.
Dywed Heddlu Dyfed Powys bod y mater wedi’i gyfeirio at Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Cafodd parafeddygon o’r Gwasanaeth Ambiwlans eu galw i’r safle ond bu farw’r dyn bnawn dydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys bod eu meddyliau gyda theulu’r dyn.
Mae’r crwner a theulu’r dyn wedi cael gwybod am ei farwolaeth.