Mae’r Blaid Lafur wedi galw ar y cyn weinidog masnach a chyn bennaeth HSBC, yr Arglwydd Green i wneud datganiad am yr hyn yr oedd yn gwybod am honiadau’n ymwneud a chamweinyddu yn y banc.

Yn ystod cwestiwn brys yn y Senedd, gofynnodd llefarydd y Blaid Lafur, Shabana Mahmood, pa wybodaeth a gafodd  y Llywodraeth gan yr Arglwydd Green ynglyn a honiadau am gwsmeriaid y banc yn osgoi talu trethi yn 2010, cyn iddo gael ei wneud yn weinidog.

Byddai methiant y Llywodraeth i’w holi ynglŷn â hynny yn “anesboniadwy ac anfaddeuol” meddai wrth ASau.

“Mae’n rhaid i ni gael llawer mwy o wybodaeth… ynglŷn â’r hyn mae’r Llywodraeth wedi bod yn ei wneud ers iddyn nhw fod yn ymwybodol o’r wybodaeth yma,” meddai Shabana Mahmood.

Ond mae gweinidog y trysorlys David Gauke wedi amddiffyn ymdrechion y Llywodraeth Glymblaid i fynd i’r afael a’r rheiny sy’n osgoi talu trethi.

Cafodd y Ceidwadwr Stephen Green ei benodi gan y Llywodraeth wyth mis ar ôl i Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) dderbyn dogfennau ynglŷn â chyfrifon preifat cwsmeriaid ei fanc a gafodd eu dwyn gan gyn weithiwr.

Bu’r Arglwydd Green yn weinidog masnach a buddsoddiad tan 2013.

Mae’r dogfennau’n  honni bod HSBC wedi helpu rhai cwsmeriaid i gelu asedau gwerth £78 biliwn mewn cyfrifon banc cudd yn y Swistir.