Nel Mair Jones, o Ysgol Edern, Pwllheli, gyda'r pastai buddugol
I gyd-fynd gyda dathlu 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia, roedd blas Patagonaidd i gystadleuaeth basteiod Tapas Llŷn eleni ar gyfer plant ysgolion cynradd Llŷn ac Eifionydd.

Roedd yn rhaid i’r plant greu rysáit empanada, math o bastai blasus sy’n boblogaidd iawn yn yr Ariannin, gyda rheidrwydd i’r pastai gael enw Cymraeg a chynnwys cynhwysyn lleol.

Cafodd Nel Mair Jones, 9 oed o Ysgol Edern ei gwobrwyo gyda’r pastai buddugol, dan yr enw ‘Pastai Patagonia’.

Yn gydradd ail, yr oedd criw o Ysgol Pont y Gof, Botwnnog a Beca Haf Williams, Ysgol Edern, gyda Siôn Gwyn Underwood, 9 oed o Ysgol Edern yn drydydd.

‘Rhannu’r etifeddiaeth Gymraeg’

Cafodd y gystadleuaeth ei beirniadu gan Hefina Pritchard o fwyty’r Whitehall ym Mhwllheli a Hugh Bracegirdle, prif gogydd ym Mhlas Bodegroes, Efailnewydd.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli, Rhys Llewelyn: “Fel un sydd wedi cael y profiad bendigedig o ddysgu Cymraeg i blant Patagonia yn ystod fy ngyrfa fel athro, mae’n wych meddwl fod plant Llŷn ac Eifionydd yn cadarnhau trwy gynnyrch lleol eu cysylltiad â phlant ym mhegwn arall y byd sy’n rhannu’r etifeddiaeth Gymraeg.”

Bydd y pastai llwyddiannus ar gael i’w blasu mewn bwytai lleol ar hyd a lled Llŷn ac Eifionydd yn ystod Pythefnos Tapas Llŷn rhwng 16 a 28 Chwefror.

Bydd ar gael ar wahanol adegau yn y Whitehall, Taro Deg a Chaffi Gwalia, Pwllheli, Tafarn y Plu Llanystumdwy, Plas Glyn y Weddw Llanbedrog ac yng Ngwesty Tŷ Newydd, Aberdaron.

Dathlu

Mae Pythefnos Tapas Llŷn yn rhan o weithgareddau Cymdeithas Parêd Dewi Sant Pwllheli sy’n dathlu diwylliant Cymraeg Llŷn ac Eifionydd, ac yn arwain at Ddydd Gŵyl Dewi Sant. Rhai o uchafbwyntiau’r dathliadau yw cyngerdd Mynediad am Ddim, noson i ddysgwyr, dangosiad arbennig o’r ffilm Patagonia yn Neuadd Dwyfor, a chystadleuaeth Ffenest Siop a Baner Cymreictod ym Mhwllheli.

Pinacl y gweithgareddau fydd Parêd Dewi Sant ei hun a fydd gyda Blas Archentaidd a Chymreig eleni. Fe’i cynhelir ym Mhwllheli, ddydd Sadwrn, Chwefror 28 am 1 o’r gloch.