Cyngor Sir Ceredigion
Fe fydd protest yn cael ei chynnal yfory gan ymgyrchwyr sy’n beirniadu Cyngor Sir Ceredigion am beidio ymweld ag ysgol gynradd Gymraeg

nac ymgynghori hefo unrhyw un o rieni na llywodraethwyr yr ysgol cyn argymell ei chau.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, ni wnaeth ymgynghorydd ar ran y cyngor ymweld ag Ysgol Llangynfelyn, Taliesin cyn llunio adroddiad sy’n argymell cau dwy ysgol yng ngogledd y sir.

Ysgol Cwmpadarn, Llanbadarn yw’r ail ysgol sy’n wynebu cael ei chau.

Er bod cyswllt wedi bod rhwng yr ymgynghorydd annibynnol a phrifathro’r tair ysgol yn y cylch, ni wnaeth siarad ag unrhyw lywodraethwr na rhiant o’r ysgol Gymraeg ac mae hynny, meddai’r gymdeithas, yn “warthus”.

Bydd tynged yr ysgol yn cael ei benderfynu mewn cyfarfod o Banel Adolygu Addysg Cyngor Ceredigion brynhawn ‘fory, cyn cael ei basio ymlaen i Gabinet y Cyngor.

Protest

“Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith, gyda rhieni a llywodraethwyr Ysgol Llangynfelyn, yn picedu cyfarfod y Panel Adolygu,” meddai Bethan Williams o Gymdeithas yr Iaith.

“Mae’n warthus fod yr adroddiad yn argymell cau ysgol heb hyd yn oed ymweld â’r safle.

“Mae profiad yn dangos nad yw Cyngor Ceredigion braidd byth yn newid unrhyw benderfyniad o ganlyniad i ymgynghori, ac felly mae’n bwysig iawn fod y Panel Adolygu’n gwrando’n fanwl ar achos y pentrefwyr.”

Niweidiol i’r Gymraeg

Ychwanegodd bod Cymdeithas yr Iaith yn rhagweld “effaith niweidiol difrifol ar addysg Gymraeg yn yr ardal” pe bai’r ysgolion yn cau:

“Ac mae hyn yn eironig gan mai un o fwriadau’r adroddiad oedd argymell sut i gryfhau addysg Gymraeg.

“Mae llawer o fewnfudwyr Saesneg ymhlith rhieni Ysgol Llangynfelyn a’r ysgol yw eu man cyswllt gydag iaith a diwylliant y wlad y maen nhw wedi ymgartrefu ynddi.

“Os yw’r ysgol yn cau, bydd llawer o’r rhieni di-Gymraeg yn mynd â’u plant at ysgol Saesneg yn Aberystwyth neu’n eu haddysgu adre. Gall fod colled o 20 o ddisgyblion i addysg Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Cyngor Sir Ceredigion.