Nigeria
Credir bod ymladdwyr Boko Haram wedi ymosod ar gymunedau yng ngogledd Cameroon gan gipio 30 o bobl, yn ôl trigolion lleol.
Daw’r ymosodiadau diweddaraf ar ôl i’r grŵp eithafol feddiannu tref arall yn Niger am y trydydd diwrnod yn olynol.
Mae’r ymosodiadau gan y grŵp wedi cynyddu yn ddiweddar ac mae gwledydd cyfagos fel Chad, Cameroon, Niger a Benin wedi rhoi addewid i anfon milwyr i helpu Nigeria i fynd i’r afael a’r grŵp eithafol, sydd wedi lladd mwy na 10,000 o bobl dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yng ngogledd Cameroon, roedd yr ymladdwyr wedi cipio bws gyda 20 o deithwyr ar ei fwrdd yn hwyr nos Sul cyn ei yrru yn ôl i’r ffin gyda Nigeria, tua 11 milltir i ffwrdd.
Yn gynnar bore ma roedd grwp arall o ymladdwyr Boko Haram wedi ymosod ar dref Kolofata.
Bu swyddogion yn cwrdd yn Cameroon ddydd Sadwrn i drafod cynlluniau i anfon hyd at 8,750 o filwyr o Nigeria, Chad, Cameroon, Niger a Benin i frwydro yn erbyn Boko Haram mor fuan â mis nesaf. Ond fe allai materion ariannol olygu bod oedi cyn i’r milwyr gael eu hanfon.