Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £700,000 yn cael ei neilltuo ar gyfer iechyd deintyddol ar gyfer pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a phobl gydag anableddau yng Nghymru.

Bydd y buddsoddiad yn cael ei roi dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn cynyddu mynediad i ofal deintyddol ar gyfer pobl gydag anableddau ac anghenion arbennig yng Nghymru.

Bydd £320,000 yn cael ei anelu at wella gofal iechyd deintyddol mewn cartrefi gofal gyda byrddau iechyd yn derbyn £370,000 er mwyn gwella mynediad i wasanaethau deintyddol ar gyfer pobl sydd ag anableddau a chyflyrau meddygol cymhleth.

‘Gwella mynediad’

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Yr ydym wedi bod yn glir fod angen gwella iechyd deintyddol ledled Cymru. Mae’r buddsoddiad wedi’i anelu at bobl fregus sy’n methu cael mynediad at wasanaethau deintyddol cymunedol confensiynol.

“Mae gan bobl sydd ag anableddau neu gyflyrau meddygol cymhleth angen gwasanaethau deintyddol sy’n gymwys i’w hanghenion, sy’n cynnwys timau sydd wedi eu hyfforddi.”

Ychwanegodd, “Gyda’r nawdd hwn, byddwn yn gallu gwella mynediad i wasanaethau deintyddol arbennig ledled Cymru a sicrhau fod yna gysondeb mewn gofal iechyd deintyddol mewn cartrefi gofal.”
Bydd preswylwyr yn derbyn asesiad risg deintyddol a fydd yn cael ei wneud gan staff y cartref gofal o fewn saith diwrnod ar ôl symud i’r cartref, ac yn gyson wedi hynny.