Llys y Goron Casnewydd
Mae dynes 21 oed wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad o ladd gŵr a gwraig oedrannus drwy yrru’n beryglus a defnyddio ei ffôn symudol y tu ôl i’r llyw.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Taylor McDonnell wedi taro Denis a Joyce Drew, y ddau’n 86 oed, am nad oedd hi’n canolbwyntio ar y ffordd o’i blaen, yn ôl yr erlyniad.
Honnir ei bod wedi gwneud cyfres o alwadau ffôn wrth iddi yrru i gartref ei chariad, cyn y gwrthdrawiad.
Dywedodd y diffynnydd nad oedd hi wedi gweld y cwpwl oedrannus wrth iddyn nhw fynd am dro gyda’i gilydd.
Bu farw Joyce Drew yn Ysbyty Brenhinol Gwent oriau’n unig ar ôl y ddamwain a bu farw Denis Drew chwe diwrnod yn ddiweddarach.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Caerllion, ger Pontir ym mis Tachwedd 2013.
Mae McDonnell o Gaerwent yn Sir Fynwy yn gwadu dau gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus.
Mae’r achos yn parhau.