Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd a golwg360 yn cydweithio ar fenter newydd fydd yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau newyddiadurol a chyhoeddi digidol yn y Gymraeg.
Bydd ‘Digidol ar Daith’ yn cynnig sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim mewn cymunedau o Langefni i Landeilo, ac mae’r trefnwyr yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn newyddion a gwybodaeth yn Gymraeg i gofrestru â’r cynllun.
Gyda chefnogaeth £52,000 o Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Lywodraeth Cymru, y nod yw gweld rhagor o gynnwys Cymraeg o safon uwch ar-lein a chefnogi newyddiaduraeth gymunedol fywiog.
Hyfforddiant
Dywedodd Emma Meese, Rheolwraig Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd, fydd yn darparu’r hyfforddiant ynghyd a’r newyddiadurwr Dylan Iorwerth, Golygydd Gyfarwyddwr Golwg:
“Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un – clwb, grŵp chwaraeon, papur bro neu unigolion – i gael hyfforddiant ac ysbrydoliaeth o’r radd flaenaf ac i gyfarfod pobl o’r un anian â nhw yn eu cymuned.
“Caiff y sesiynau hyfforddi hanner diwrnod eu hategu gan sesiynau tiwtorial ymarferol ar-lein a chanllawiau argraffedig.
“Byddwn yn ymdrin â sgiliau craidd newyddiaduraeth ddigidol ac yn dangos i bobl rai o’r arfau sydd ar gael i hwyluso’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol a sianeli digidol o bwys yn y Gymraeg.”
Hybu’r iaith
Ychwanegodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae’r fenter hon, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn defnyddio’r dechnoleg ddigidol ddiweddaraf i gefnogi’r Gymraeg fel iaith fyw bob dydd, ac i ddatblygu dulliau o gyfnewid y newyddion, safbwyntiau a gwybodaeth leol.
“Bydd hyn nid yn unig yn hybu’r iaith ond hefyd yn helpu i wneud ein cymunedau’n llefydd gwych i fyw.”
I gofrestru am un o’r sesiynau isod, cofrestrwch yma:
Yr Wyddgrug 10 Chwefror
Llanrwst 11 Chwefror
Llangefni 11 Chwefror
Caernarfon 12 Chwefror
Porthmadog 12 Chwefror
Llanfair-ym-Muallt 13 Chwefror
Aberystwyth 3 Mawrth
Llanbedr Pont Steffan 3 Mawrth
Hendy-gwyn ar Daf 6 Mawrth
Caerdydd 11 Mawrth
Llanelli 13 Mawrth
Llandeilo 13 Mawrth