Edwina Hart
Mae cwmni pecynnu o Went yn ehangu wrth iddo fuddsoddi mewn technoleg werdd gan greu 30 o swyddi newydd dros y 12 mis diwethaf.

Mae Klöckner Pentaplast wedi buddsoddi €6.4 miliwn i gynyddu gallu a chyflwyno technoleg werdd yn ei safle yng Nghrymlyn ger Caerffili.

Mae’r cwmni yn rhan o Grŵp Klöckner Pentaplast sydd â’i bencadlys yn yr Almaen, ac sy’n arwain y byd ym maes darparu deunydd pacio, argraffu a deunydd plastig arbenigol ar gyfer y marchnadoedd fferyllol, dyfeisiau meddygol, bwyd, diod a chardiau credyd ymysg eraill.

‘Cystadleuol’

Cefnogwyd y prosiect gan gyllid busnes gwerth £400,000 gan Lywodraeth Cymru, gyda Gweinidog yr Economi, Edwina Hart yn tanlinellu pwysigrwydd y buddsoddiad.

“Mae hwn yn fuddsoddiad pwysig gan Klöckner Pentaplast. Bydd yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gystadleuol ac yn gallu cwrdd â’r galw cynyddol gan gwsmeriaid. Cafwyd cystadleuaeth o fewn y grŵp ar gyfer y buddsoddiad hwn. Rydw i’n falch bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu i sicrhau bod y  prosiect hwn yn dod i Gymru.

“Mae gwaith KP yn perthyn i un o’n prif sectorau. Mae’r cwmni wedi parhau i fuddsoddi ac ehangu’r safle yng Nghrymlyn ac mae’r buddsoddiad hwn yn enghraifft dda o’r modd yr ydym yn mynd i’r afael â thwf gwyrdd er mwyn datblygu economi Cymru.”

Technoleg werdd

Mae cyfarpar newydd, modern y cwmni’n cyflwyno technoleg newydd, glân, mwy gwyrdd. Mae’r dechnoleg yn defnyddio llai o ynni ac mae modd iddo ddefnyddio mwy o ddeunydd sydd wedi’i ailgylchu er mwyn cwrdd â’r cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid, meddai Edwina Hart.

Mae’r cwmni’n cyflogi 121 o weithwyr yn ei safle yng Nghrymlyn. Mae ganddo bedair llinell gynhyrchu PVC a’r rheini’n cynhyrchu tua 19,000 o dunelli.

Klöckner Pentaplast yw’r unig gwmni sy’n cynhyrchu ffilmiau cadarn. Mae ganddynt safleoedd gweithgynhyrchu ar bedwar cyfandir – Asia, Ewrop, Gogledd America, a De America.

Sefydlwyd y busnes yng Nghrymlyn ym mis Rhagfyr 1998 gan Giles Peacock a Graham Johnson. Yn 2003, ymunodd â grŵp Klöckner Pentaplast. O ganlyniad, gwelwyd nifer o brosiectau i ehangu’r busnes a buddsoddi ynddo. Cafwyd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer amryw o’r prosiectau hynny.

Dywedodd Giles Peacock ar ran Grŵp Klöckner Pentaplast: “Drwy’r prosiect hwn i ehangu’r busnes sicrhawyd ein lle yn y farchnad deunydd pacio bwyd yn y Deyrnas Unedig. Mae’n ein galluogi i weithio’n agos gyda’n cwsmeriaid i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ddeunydd pacio bwyd.”