Mae Cyngor Ynys Môn yn ystyried cynlluniau a allai olygu y bydd yn rhaid i rai rhieni dalu am ofal plant mewn clybiau brecwast.

Ar hyn o bryd, mae cynllun brecwast am ddim Llywodraeth Cymru yn golygu bod gan bob plentyn cynradd hawl i gael brecwast am ddim os nad ydyn nhw’n cael pryd o fwyd cyn dod i’r ysgol.

Ond drwy wneud i rieni dalu am y gofal sy’n cael ei roi gan athrawon a gweithwyr ysgol yn y bore, cyn i’r brecwast gael ei ddarparu, mae’r cyngor yn dweud y gallai ychwanegu  £171,000 y flwyddyn at goffrau’r cyngor.

Mae’r cyngor yn wynebu diffyg ariannol o £4 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Nid yw’r cyngor wedi datgelu faint o arian fydd yn cael ei godi ar bob rhiant ond ni fydd rhieni sy’n derbyn budd-daliadau yn gorfod talu.

Ymgynghoriad

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai’r cyngor yn ymgynghori’n “drwyadl” cyn mabwysiadu unrhyw newid:

“Rhaid pwysleisio nad oes unrhyw benderfyniad wedi ei wneud yng nghyd-destun y ddarpariaeth yma eto. Fodd bynnag, petai’r Cyngor yn mabwysiadu cynnig y Gwasanaeth Addysg, fel rhan o’i Gyllideb, yna’r elfen gofal fyddai dan sylw ac nid y brecwast.

“Byddai angen ymgynghori yn drwyadl gyda llywodraethwyr a rhieni, wrth gwrs, cyn cyflwyno unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol.”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud bod y gwasanaeth brecwast am ddim yn un statudol ond y gall gynghorau godi tal am y gwasanaeth gofal cyn brecwast yn unig.