Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth wedi i gerddwr gael ei ladd mewn gwrthdrawiad â char ar yr M4 yn oriau mân y bore ma.
Bu farw dyn yn y fan a’r lle wedi iddo gael ei daro gan gar Toyota Auris arian ar ochr orllewinol y draffordd rhwng Sarn a’r Pîl.
Cafodd gyrrwr y car ei gludo i Ysbyty Tywysoges Cymru.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n awyddus i siarad â thystion i’r digwyddiad, ac i wrthdrawiad arall rhwng Ford Fiesta arian a Renault Laguna arian ychydig cyn hynny.
Cafodd yr M4 ei chau am oddeutu saith awr tra bod yr heddlu’n ymchwilio.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.