Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dau ddyn ar ôl digwyddiad yn Cornwall Street yn ardal Grangetown o Gaerdydd.
Cafodd yr heddlu eu galw am hanner awr wedi hanner dydd wedi adroddiad fod dyn wedi cael ei fygwth â chyllell – a chafodd uned o heddlu arfog eu hanfon yno.
Mae’r ddau ddyn sydd yn y ddalfa yn helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau. Ni chafodd y dioddefwr unrhyw anafiadau.
Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101, neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.