Mae bron i un o bob deg person ym Mhrydain yn cadw cronfa ddirgel o arian y gallan nhw ddefnyddio yn y dyfodol pe baen nhw am adael eu partner.

Yn ôl ymchwil gan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol mae 9% o bobl sy’n briod neu sydd wedi bod gyda’u partner ers dros flwyddyn yn cyfaddef fod ganddyn nhw arian wrth gefn, os yw pethau’n mynd o chwith.

Dangosodd yr ymchwil hefyd fod dynion ychydig yn fwy tebygol na merched o gadw ‘cronfa ddianc’ o’r fath.

Dywedodd 13% o bobl fod ganddyn nhw gronfa arall o arian nad oedd eu partner yn gwybod amdano – ac un o’r prif resymau am ei gadw oedd am nad oedden nhw eisiau i’w cymar fod yn ei wario’n afresymol.

Ac ar gyfartaledd roedd cyplau yn ffraeo am arian 39 gwaith y flwyddyn, gyda bron un o bob pump (18%) yn cyfaddef iddyn nhw guddio dyledion oddi wrth eu partner.

Cymry’n cecru?

Mae’n ymddangos fodd bynnag bod pobl o Gymru yn llai tebygol o baratoi yn ariannol am ddiwedd perthynas – dim ond 6% o bobl oedd yn cadw ‘cronfa ddianc’.

Dim ond 8% oedd yn cadw arian yn ddirgel oddi wrth eu partner, oedd hefyd yn llai na chyfartaledd Prydain.

Ond er nad yw pobl Cymru mor debygol o gadw arian wrth gefn, roedden nhw’r un mor debygol â phobl o weddill Prydain o ffraeo gyda’u partner am arian, gyda chyfartaledd o 39 ffrae’r flwyddyn.

Siarad am arian

Fe bwysleisiodd Nick Hill, arbenigwr ariannol o’r Gwasanaeth Cyngor Ariannol, ei bod hi’n hanfodol i gyplau fod yn agored â’i gilydd ynglŷn ag arian.

Awgrymodd hefyd y gallai peidio â bod yn onest ynglŷn â dyledion fod llawer gwaeth na chuddio rhywfaint o arian ar y slei.

“Rydyn ni’n hoffi meddwl bod y person rydyn ni’n rhannu ein bywyd â nhw wastad yn onest gyda ni, ond mae’n hymchwil ni’n dangos, hyd yn oed i gyplau priod, nad yw hynny wastad yn wir,” meddai Nick Hill.

“Fe allai eich ypsetio chi i ddarganfod bod eich partner yn cuddio arian oddi wrthoch chi, ond fe allai darganfod fod ganddyn nhw ddyledion mawr fod yn llawer gwaeth, a chael goblygiadau ar eich arian chi hefyd.”