Morgan Owen

Morgan Owen sydd yn trafod y dref a’i Chymreictod, yn sgîl twf UKIP yn yr ardal …

Tan yn weddol ddiweddar roedd mwyafrif o boblogaeth Merthyr Tudful yn medru’r Gymraeg.

Mwyafrif bychan, yn sicr, ond yn ôl Cyfrifiad 1911 roedd 50.9% o’r boblogaeth yn siarad yr heniaith.

Mi fydd y wybodaeth hon yn peri cryn syndod i nifer am i Ferthyr fod yn gyfystyr â diwydiannaeth Seisnig yn rhinwedd ei hanes fel canolbwynt diwydiant haearn a dur Cymru, ac ar un adeg, y byd.

Yn wir, am gyfnod, hi oedd tref fwyaf poblog y wlad, cyn cael ei goddiweddyd gan Gaerdydd yn yr 1880au.

Er i bobl o bob cwr o’r byd heidio i’r dref er mwyn ceisio gwaith, ni chollodd ei Chymreictod tan ar ôl i fflamau’r ffwrneisiau ddiffodd.

Yn y dref ceid strydoedd o Wyddelod ynghyd ag eglwysi Catholig i ddiwallu eu hanghenion ysbrydol; ceid Sbaenwyr ac Eidalwyr lu, ac mae eu holion i’w canfod hyd heddiw mewn enwau strydoedd megis Alfonso Street yn Nowlais Top; mae’r hen synagog yn sefyll ar Heol Bryntirion yng nghanol y dref.

Ym merw cyd-gyfarfod yr holl bobloedd hyn, roedd Merthyr yn dref Gymraeg ar ei hanterth. Cyfrifiad 1891 oedd y cyntaf i holi ynghylch gallu yn y Gymraeg, a bryd hynny siaradai 68.4% o boblogaeth Merthyr yr iaith frodorol.

Twf UKIP

Pwrpas dwyn y ffeithiau hyn i olau yw dangos, ar yr un llaw, fod y Gymraeg yn gallu ffynnu mewn cyd-destun amlddiwylliannol, ac ar y llaw arall, i bwysleisio nad yw Cymreictod y Cymoedd yn freuddwyd genedlaetholgar.

Y rheswm i mi synied o ddifri am hyn nawr yw bod twf ymddangosiadol UKIP ym Merthyr yn mudlosgi yng nghefn fy nghof, a chydag etholiad yn nesáu, mae’r pryder hwnnw’n megin nes i’r marwor ddod yn oddaith.

Mae llawer o frochi o hyd ynghylch cyflwyno’r iaith Gymraeg i’r llefydd hynny y mae’n ‘estron’ iddynt, fel, yn ôl rhai, y Cymoedd.

Ond gobeithio bod y dystiolaeth a gyflwynais uchod yn gwrthbrofi hynny. Mae’n rhan go fawr o’n hetifeddiaeth— hyd yn oed ym Merthyr, lle nad yw’r iaith wedi bod yn hyglyw ar ei strydoedd ers peth amser.

Efallai taw dim ond 8.9% o’r boblogaeth sy’n ei siarad ym Merthyr bellach yn ôl Cyfrifiad 2011, ond serch hynny, gall yr iaith ein huno yn wyneb anoddefgarwch cynyddol.

Cadw’r mur

Roedd agor swyddfa etholiadol UKIP ym Merthyr eleni yn dipyn o sioc, felly. Mewn tref o bobl sydd yn ddisgynyddion i fewnfudwyr, ynfydrwydd llwyr fyddai coleddu senoffobia’r blaid honno.

Daeth nifer ynghyd ym Merthyr, ond bu’r Gymraeg yn fyw, ac nid oedd y mewnlifiad o bobl wahanol yn ergyd i’n hiaith, sef yr hyn sydd, i lawer, yn sylfaen ein hunaniaeth Gymreig.

Yn wir, mae Merthyr a’r cymoedd cyfagos â’r canran uchaf o bobl yng Nghymru sydd yn ystyried eu hunain yn Gymreig, yn hytrach na Phrydeinig.

Dechreuodd yr iaith ddiflannu ymhell ar ôl i Ferthyr ddod yn dawddlestr y cenhedloedd. Ar y sail hon y gall y Gymraeg ddychwelyd i gadarnhau’r ymdeimlad o undod Cymreig.

Does dim rheswm felly i drigolion Merthyr ildio i anoddefgarwch, ac fel ynghynt, gall hunaniaeth Gymreig gynhwysol ffynnu ym Merthyr law yn llaw â’r iaith.

Er i ni ym Merthyr darddu o amryw o lefydd yn y pen draw, rydyn ni’n parhau o hyd i gydfyw’n heddychlon gyda’n hunaniaeth Gymreig unigryw a chadarn— a balchder yn ein hiaith.

Mae Morgan Owen yn astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.