Kyle Vaughan
Mae dau ddyn gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddio mewn cysylltiad â diflaniad Kyle Vaughan ddwy flynedd yn ôl, wedi cael eu rhyddhau.
Dywedodd Heddlu Gwent bod y ddau ddyn, 27 a 25 oed o’r Coed Duon, wedi cael eu harestio ym mis Ionawr 2013, ond na fyddan nhw bellach yn wynebu unrhyw gamau pellach.
Fe ddiflannodd Kyle Vaughan, 24, o Drecelyn, Caerffili ar 30 Rhagfyr, 2012.
Methiant fu ymdrechion yr heddlu i ddod o hyd iddo.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu y byddan nhw’n parhau gyda’r ymchwiliad os daw unrhyw wybodaeth newydd i’r amlwg.