Mae heddlu yng Nghastell Nedd Port Talbot yn apelio am wybodaeth gan lygad dystion wedi lladrad mewn siop fetio.

Digwyddodd y lladrad yn siop Ladbrokes ar Ffordd Tollgate ym Mhort Talbot am tua 6 yr hwyr nos Wener, 4 Chwefror lle credir bod tri wedi cael mynediad i’r siop.

Roedd un dyn wedi bygwth aelod o saff ond ni chafodd neb eu hanafu.

Fe wnaeth y dynion ddianc ar droed gydag arian gan redeg drwy barc ger Ffordd Tollgate.

Roedd y dyn a gymrodd yr arian yn chwe throedfedd o daldra, yn gwisgo mwgwd a chot las tywyll ac yn siarad hefo acen gogledd Lloegr, yn ôl yr heddlu.

Mae hi’n bosib bod o leiaf dau o’r dynion wedi siarad â’i gilydd mewn iaith dramor hefyd, wrth i’r trydydd dyn aros y tu allan i ddrws y siop.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu â’r heddlu ar 101.