Alan Bannister
Mae’r rheithgor wedi dechrau ystyried eu dyfarniad yn achos pencampwr golff sydd wedi ei gyhuddo o hawlio budd-daliadau anabledd gwerth £26,000 ar gam.

Mae Llys y Goron Caerdydd wedi clywed bod Alan Bannister, 56 oed ac o’r Barri,  wedi hawlio’r Lwfans Byw i’r Anabl am wyth mlynedd  ac yn dweud nad oedd yn medru cerdded mwy na 50 llath a’i fod yn ei chael hi’n anodd codi ei freichiau uwchben ei ysgwyddau.

Ond fe gafodd y cyn-bencampwr golff, sy’n dioddef o grydcymalau, ei ffilmio yn chwarae ac yn cerdded o amgylch cwrs golff 18 twll gan dynnu troli gydag o.

Dywedodd yr erlynydd ei fod wedi gorliwio ei salwch ond mae Alan Bannister yn gwadu’r cyhuddiadau gan ddweud fod y meddyg wedi ei gynghori i chwarae golff.