Mark Drakeford
Mae’r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford wedi galw ar Lywodraeth Prydain i sicrhau fod Cymru yn cael ei chynrychioli yn llawn ar banel annibynnol  yr ymchwiliad i gam-drin plant.

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, Theresa May, mae Mark Drakeford yn croesawu  penodiad y barnwr Lowell Goddard i gadeirio’r panel annibynnol, ond  galwodd am “gynrychiolaeth amlwg o Gymru” ar banel yr ymchwiliad.

Dywedodd  Mark Drakeford,  “Dwi’n croesawu’r cyhoeddiad fod y Barnwr Lowell Goddard wedi derbyn gwahoddiad yr Ysgrifennydd Cartref i gadeirio’r panel.

“Mae rôl y cadeirydd a’r panel yn sylfaenol er mwyn ennill hyder y dioddefwyr, gan ddangos fod gwaith yr ymchwiliad yn gynhwysol a thryloyw.  Mae’r un mor bwysig i sicrhau fod trefniadau yn eu lle fel bod y dioddefwyr sy’n dymuno rhoi tystiolaeth yn cael eu cefnogi yn effeithiol.”

‘Cynrychiolaeth o Gymru’

Ychwanegodd: “Rwyf wedi ei gwneud hi’n glir i’r Ysgrifennydd Cartref ein disgwyliadau fod aelodaeth y panel a’i gwaith yn gynrychioladol o Gymru.

“Rwyf wedi mynegi barn Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru y dylai penodiadau aelodau’r panel fod yn gynrychioladol o Gymru. Yr ydym wedi credu ers tro, nad oedd aelodau’r panel yn deall y cyd-destun Cymreig.

“O ganlyniad, rwyf wedi gofyn i’r Ysgrifennydd Cartref i amlinellu ei chynlluniau ar gyfer penodi aelodau newydd y panel, ac erbyn pryd mae hi’n bwriadu gwneud hynny yn ogystal â’i  chynlluniau i gynnwys Llywodraeth Cymru yn y broses.”