Nic Clegg
Fe fyddai unigolion cyfoethog, banciau a busnesau mawr yn wynebu trethi uwch o dan gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol i fynd i’r afael a dyledion Prydain.
Mewn araith heddiw bu’r Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, yn amlinellu polisïau economaidd ei blaid gan ddweud y byddai’n targedu’r rheiny “sydd ddim bod amser yn talu cyfran deg” petai’n ennill yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ar yr un pryd, fe fyddai cynnydd o 1% mewn budd-daliadau – ar wahân i bensiynau a budd-daliadau anabledd – am y ddwy flynedd gyntaf o’r Senedd newydd.
Ond mae Nick Clegg wedi mynnu y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau i ddiogelu’r rhai sydd ar gyflogau isel, tra’n gwario mwy ar addysg, y Gwasanaeth Iechyd a chymorth dyngarol dramor.
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol, meddai, yn ceisio codi o leiaf £8 biliwn drwy drethi ychwanegol ar unigolion cyfoethog, banciau a busnesau mawr.
“Os yw gwasanaethau cyhoeddus a’r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas am gael eu diogelu, yna fe fydd yn rhaid i’r rhai cyfoethocaf a busnesau mawr dalu cyfran deg.”
Fe fyddai’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn codi £16 biliwn drwy dorri ar wariant – gan gynnwys £4 biliwn ar wariant lles – a £6 biliwn drwy dargedu’r rheiny sy’n osgoi talu trethi.