Llywelyn Williams
Llywelyn Williams sydd yn edrych ar y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a UKIP yn ei flog cyntaf ar ymgyrchu gwleidyddol ar Facebook

Yr wythnos hon dw i wedi penderfynu rhoi cynnig ar ddefnyddio mesuryddion Facebook wrth gymharu ymgyrchu gwleidyddol sydd yn digwydd ymysg pleidiau ar gyfryngau cymdeithasol.

Dw i’n gweld Facebook  fy hunan yn wefan hynod o ddefnyddiol i gyfathrebu ymysg hen ffrindiau a ffrindiau newydd mewn ffordd ratach a chyflymach, yn ogystal â phlatfform i fynegi barn, rhannu lluniau a gwylio fideos digri.

Wrth gwrs mae’r mwyafrif o fusnesau, clybiau chwaraeon a bandiau cerddorol bach a mawr yn defnyddio Facebook i gysylltu gyda’i chefnogwyr.

Mae’r union beth wedi digwydd ers tipyn ymysg pleidiau gwleidyddol a newyddiaduriaeth yn ogystal.

Mae’n wefan defnyddiol iawn i rannu newyddion diddorol a fideos ymgyrchol ymysg ei chefnogwyr gyda photensial enfawr o gyrraedd cynulleidfa ehangach.

Chwilio am y data

Fel arbrawf cychwynnol dw i wedi dewis tair plaid fydd yn ddylanwadol yng Nghymru yn ystod yr etholiad, sef y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr, ac UKIP.

(Bydd ail ran i’r blog yma i ddilyn yn edrych ar y pleidiau eraill gan gynnwys Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion).

Yn gyntaf, drwy ddefnyddio Socialbackers mae modd cyfrif faint o gefnogwyr sydd gan y pleidiau ar eu tudalennau Facebook yn ogystal â gweld twf neu gwymp yn eu cefnogwyr dros y chwe mis diwethaf.

Mae hefyd modd gweld  nifer y cyrchiadau (engagements) mae pob plaid wedi ei ddenu drwy linciau, statws, fideos a lluniau ar wefan Simplymeasured.

Drwy hyn mae modd dadansoddi gweithgaredd Facebook y pleidiau yn ystod y pythefnos diwethaf, gan gymharu pa fath o negeseuon Facebook sydd fwyaf poblogaidd o fewn y blaid a pha mor aml mae’r pleidiau yn postio dros y pythefnos hwnnw.

Gall poblogrwydd eu postiau awgrymu pa fath o neges o fewn y blaid sydd yn atseinio orau ymysg ei chefnogwyr, yn ogystal â rhoi syniad o naratif y blaid ei hun.

Y Ceidwadwyr

Dw i am ddechrau gyda’r blaid sydd yn arwain y llywodraeth ar y funud, sef y blaid Geidwadol. Dyma nifer y bobl sydd yn eu ‘hoffi’ ar eu tudalen Facebook swyddogol.

Nifer y ‘hoffwyr’ – 340,520

Nifer y ‘hoffwyr’ yn y DU – 262,531

Dyma graff sy’n dangos nifer o ‘hoffwyr’ yn y DU dros y chwe mis diwethaf.


Fel y gwelwch, mae nifer o ‘hoffwyr’ y Ceidwadwyr wedi cynyddu’n raddol ers mis Medi, gan gynyddu o 200k ar ddiwedd mis Awst i dros 260k erbyn diwedd mis Ionawr.

Un o’r rhesymau am y twf graddol yma o bosib yw bod y blaid, ers y llynedd, wedi bod yn talu Facebook (oddeutu £7,500) i hysbysebu eu tudalen ar raddfa eang iawn.

Mae hynny’n ceisio creu cyhoeddusrwydd byd eang drwy bresenoldeb eu tudalen ar hysbysebion cyffredinol, gan obeithio y bydd pobl yn ‘hoffi’ y dudalen.

Dyma’r data am weithgaredd Facebook y Ceidwadwyr ers 19 Ionawr hyd at 1 Chwefror.

Nifer o bostion facebook – 26

Cyrchiadau facebook (nifer y bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylw ar y post) – 91,407

Cyfartaledd y cyrchiadau i bob post – 3,515.7

Dyma negeseuon Facebook mwyaf poblogaidd y blaid Geidwadol o ran cyrchiadau yn y pythefnos diwethaf.


Wrth edrych ar y negeseuon poblogaidd o ran nifer y cyrchiadau Facebook, mae neges y blaid yn gryf iawn o ran;

*Codi bwganod o’r posibiliad y bydd Ed Miliband yn fodlon cydweithio gyda’r SNP a Sinn Fein mewn llywodraeth leiafrifol. Hunllef i’r Ceidwadwr Unioliaethol yn eu plith yn wir!

*Winston Churchill: o bosib mae’r ail bost yn dangos poblogrwydd cyffredinol Winston Churchill fel y Prif Weinidog hanesyddol a enillodd y rhyfel yn erbyn y Natsïaid, gyda’r Ceidwadwyr o bosib eisiau cysylltu Churchill a’r blaid Geidwadol yn agosach fel ffordd o ddenu etholwyr.

*Polisi llymder y Ceidwadwyr yn gweithio: Pwysleisio fod Prydain gyda’r economi sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop. Ceisio dangos i etholwyr fod lleihau’r diffyg drwy bolisïau llymder yn talu’i ffordd.

*Cyfraddau trethi llai: Sylwer fod y neges o geisio dangos i’r etholwyr mai’r ffordd ymlaen yw ethol llywodraeth  gyfrifol na fyddai’n gorwario ac a fyddai’n lleihau trethi incwm.  Erfyn ar yr etholwyr i beidio ag ethol y Blaid Lafur, sydd yn draddodiadol gysylltiedig â chodi trethi, gwario a gor-fenthyca.

Y Blaid Lafur

Ar y llaw arall, dyma’r ffigyrau ar gyfer tudalen Facebook y blaid Lafur.

Nifer yr ‘hoffwyr’: 211,197

Nifer yr ‘hoffwyr’ yn y DU: 163,068

Dyma graff sy’n dangos nifer yr ‘hoffwyr’ Llafur yn y DU dros y chwe mis diwethaf.


Sylwer hefyd fod y Blaid Lafur wedi cynyddu eu ‘hoffwyr’ ers mis Awst flwyddyn ddiwethaf hyd at fis Ionawr, gyda thwf go uchel rhwng diwedd mis Medi hyd at ddiwedd mis Hydref.

Ym mis Awst roedd y nifer o gwmpas 150k, ond bellach mae fyny at 165k, cynnydd o 15k mewn chwe mis. Ond twf gymharol fechan o’i gymharu â’r blaid Geidwadol.

Dyma’r data o weithgaredd Facebook y blaid Lafur ers 19 Ionawr hyd at 1 Chwefror.

Nifer o bostion Facebook – 26

Cyrchiadau Facebook (nifer o bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylw ar y post) – 55,228

Cyfartaledd y cyrchiadau i bob post – 2,214.2

Dyma negeseuon Facebook mwyaf poblogaidd y Blaid Lafur o ran cyrchiadau dros y pythefnos diwethaf.


*
Buddugoliaeth i’r ymgyrch yn erbyn tudalen 3 y Sun gipiodd y prif safle yng nghyrchoedd Facebook y Blaid Lafur.

*Mae pwyslais ar y Gwasanaeth Iechyd yn un o gryfderau’r Blaid Lafur wrth ymgyrchu. Mae fel petai’r neges yn cael ei gario mai Llafur yn unig wnaiff sicrhau fod y gwasanaeth yn gynaliadwy ac effeithiol heb fygythiadau o breifateiddio gan y Ceidwadwyr a UKIP.

*Sylwer fod ffracio yn cael tipyn o sylw yng nghyd-destun Llafur. Mae’r blaid wedi addo na fyddai unrhyw weithgareddau ffracio yn digwydd o dan barciau cenedlaethol.

UKIP

Dyma droi’r sylw nawr at weithgaredd tudalen Facebook UKIP.

Nifer yr ‘hoffwyr’: 332 557

Nifer yr ‘hoffwyr’ yn y DU: 279,830

Dyma graff sy’n dangos nifer yr ‘hoffwyr’ UKIP yn y DU dros y chwe mis diwethaf.


Ers diwedd mis Awst mae nifer ‘hoffterau’ UKIP wedi cynyddu o 200k i oddeutu 280k erbyn diwedd mis Ionawr, cynnydd o 80,000 yn y DU.

Dyma’r data o weithgaredd Facebook UKIP ers 20 Ionawr nes 2 Chwefror.

Nifer o bostion Facebook – 50

Cyrchiadau Facebook (nifer o bobl sydd wedi hoffi, rhannu neu ychwanegu sylwad ar y post) – 208,009

Cyfartaledd y cyrchiadau i bob post – 4,160

Dyma negeseuon Facebook mwyaf poblogaidd UKIP o ran cyrchiadau dros y pythefnos diwethaf.


Wyddwn i ddim fod Nigel Farage wedi bod yn cymryd rhan yn yr ymgyrch ‘Ionawr sych’! Ond dyna ddaeth i’r brig o ran cyrchiadau i negeseuon y dudalen – dyma Farage a’i beint.

*Mae’r Undeb Ewropeaidd dal yn uchel ar agenda’r blaid ar y cyfryngau cymdeithasol. Cafwyd tipyn o gyrchiadau yn sgil y blaid yn gofyn i’w chefnogwyr bwyso’r botwm ‘hoffi’ os oedden nhw’n cytuno eu bod eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd.

*Yn sgil pryderon ac amheuon eu bod o blaid preifateiddio’r Gwasanaeth Iechyd, gwelwyd ymgais gan y blaid i annog ei chefnogwyr i ‘hoffi’ a ‘rhannu’ eu datganiad o addo rhoi £3biliwn yn ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd.

*Mae’r neges o geisio lleihau cymorth ariannol tramor a gwrthod cynllun ‘hawl i brynu’ i dramorwyr yn taro tant hefyd ymysg ei chefnogwyr.

Mae Llywelyn Williams yn fyfyriwr Meistr yn adran Wleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth.

Hon yw ei ail flog ar Etholiad Cyffredinol 2015 ar gyfryngau cymdeithasol, a’r cyntaf yn trafod yr ymgyrch ar Facebook.