Mae AS wedi annog David Cameron i sgrapio swyddi Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ac ail-gyfeirio’r arian at wasanaethau rheng flaen.

Roedd AS Llafur dros dde Clwyd, Susan Elan Jones, yn siarad yn Nhŷ’r Cyffredin ddoe pan ddywedodd wrth Brif Weinidog San Steffan y byddai cwtogi ar y swyddi yn gymorth i gadw cymunedau yn fwy diogel.

“Ges i ddim ateb call gan y Prif Weinidog, fe wnaeth o ond mwmian rhywbeth am atebolrwydd,” meddai Susan Elan Jones yn dilyn ei sylwadau.

“Ond y gwirionedd yw nad oedd neb oni bai am y Llywodraeth eisiau’r swyddi yma yn y lle cyntaf, nid oes llawer o bobol yn pleidleisio dros ethol Comisiynwyr ac fe all yr arian gael ei wario ar dalu am heddweision yn ein cymunedau.”

“Dydyn ni ddim angen mwy o bobol mewn siwtiau i asesu a gwneud penderfyniadau.”

Ychwanegodd y byddai Llywodraeth Lafur, petai’n cael ei hethol yn yr etholiadau cyffredinol ym mis Mai, yn sgrapio’r swyddi fel mater o “synnwyr cyffredin”.