Fe allai pleidlais myfyrwyr fod yn allweddol wrth benderfynu tynged rhai etholaethau yn etholiad cyffredinol 2015 – a rhai Caerdydd ymysg y rhai mwyaf dylanwadol.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar gan yr Undeb Myfyrwyr Cenedlaethol mae 191 o etholaethau ym Mhrydain yn cynnwys poblogaeth o fyfyrwyr sydd yn fwy na mwyafrif yr AS presennol.
Dyw hynny ddim yn golygu wrth gwrs mai myfyrwyr fydd yn penderfynu tynged y seddi hynny i gyd.
Ond mae’r Guardian wedi awgrymu fod sedd Gogledd Caerdydd ymysg y rhai ble mae pleidlais y myfyrwyr ar ei fwyaf pwerus.
Y Ceidwadwyr dan fygythiad
Dim ond mwyafrif o 194 gafodd y Ceidwadwr Jonathan Evans yn Etholiad 2010 yn sedd Gogledd Caerdydd, un o’r mwyafrifau lleiaf yn y wlad.
Mae’r etholaeth yn gartref i lawer o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ac felly fe allai ymchwydd yn y bleidlais i Lafur olygu mai nhw allai gipio’r sedd.
Rhoddwyd Gogledd Caerdydd yn ail ar restr y Guardian o ddeg sedd ble roedd pleidlais y myfyrwyr ar ei fwyaf pwerus.
Y lleill oedd Gogledd Swydd Warwick, De Norwich, De Caeredin, Lancaster a Fleetwood, De Orllewin Wolverhampton, Carlisle, Brighton Pavilion, Gorllewin Bryste, a Sheffield Hallam.
Sheffield Hallam wrth gwrs yw sedd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Nick Clegg – a dorrodd ei addewid i beidio â chynyddu ffioedd dysgu.
Beth am Gymru?
Cafodd etholaeth Gogledd Caerdydd hefyd ei henwi gan Iolo Cheung fel un o’r ‘deg sedd i’w gwylio’ yn Etholiad 2015 ar Flog Gwleidyddiaeth golwg360 yn ddiweddar.
Mae disgwyl hefyd y bydd brwydr rhwng y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur am bleidlais y myfyrwyr yn etholaeth Canol Caerdydd – mwyafrif o 4,500 sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol ar hyn o bryd.
Yn ogystal â’r etholaethau yng Nghaerdydd, mae cynghorydd Plaid Cymru o Wynedd wedi cyfaddef y gallai ei phlaid fod mewn peryg o golli sedd Arfon i Lafur oherwydd pleidlais myfyrwyr Bangor.
Mae’n bosib y bydd pleidlais y myfyrwyr yn chwarae rhan fawr yng Ngheredigion hefyd – llwyddodd y Democratiaid Rhyddfrydol i gipio’r sedd yn annisgwyl oddi ar Blaid Cymru yn 2005 yn rhannol oherwydd pleidlais y myfyrwyr.