Gwrtthdaro yn yr Wcrain y llynedd
Mae Arlywydd Ffrainc a Changhellor yr Almaen wedi cyhoeddi y bydden nhw’n cyflwyno cynnig heddwch newydd i’r Wcráin, ar ôl bron i flwyddyn o wrthdaro rhwng llywodraeth a gwrthryfelwyr y wlad.

Wrth siarad mewn cynhadledd i’r wasg, dywedodd Francois Hollande y bydd y ddau arweinydd yn hedfan i Kiev cyn cyrraedd Moscow yfory i gyflwyno’r cynnig.

Mae Ysgrifennydd Tramor yr Unol Daleithiau, John Kerry, hefyd yn yr Wcrain i drafod yr argyfwng economaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Canghellor yr Almaen, Angela Merkel: “Yn sgil y trais sydd wedi cynyddu yn ystod y dyddiau diwethaf, mae’r canghellor a’r Arlywydd Hollande yn dwysau eu hymdrechion hir dymor i gyrraedd cytundeb heddychlon yn nwyrain yr Wcrain.”

Ychwanegodd Francois Hollande: “Ni ellir dweud nad yw Ffrainc a’r Almaen wedi ceisio gwneud popeth o fewn eu gallu i gynnal yr heddwch.”

Mae dros 5,000 o bobol wedi cael eu lladd yn yr Wcrain ers mis Ebill y llynedd.