Fe fydd ymchwiliad swyddogol yn cael ei gynnal i arferion busnes cwmni archfarchnad Tesco, gan  gynnwys ymchwiliad i’r oedi mewn taliadau i gyflenwyr.

Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Bwydydd, Christine Tacon, a wnaeth y cyhoeddiad gan ddweud bod amheuon bod Tesco wedi torri’r cod ymarfer.

Dywedodd Christine Tacon ei bod wedi gwneud y penderfyniad ar ôl iddi ystyried gwybodaeth yn ymwneud ag arferion o oramcangyfrif elw Tesco a gyhoeddwyd ym mis Medi’r llynedd.

Dywedodd ei bod wedi trafod yr arferion gyda Tesco a’i bod hi nawr angen rhagor o wybodaeth gan gyflenwyr ac eraill i benderfynu pa gamau eraill i’w cymryd.

Cafodd rôl y dyfarnwr i sefydlu yn 2013 i reoleiddio’r berthynas rhwng y 10 archfarchnad fwyaf a’u cyflenwyr.

Dyma’r ymchwiliad cyntaf i’w gynnal ac mae disgwyl iddo gymryd naw mis. Mae’r dyfarnwr wedi dweud y dylai’r dystiolaeth gael ei chyflwyno erbyn 3 Ebrill.

‘Talu i sicrhau lleoliad da’

Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried arferion lle mae cyflenwyr wedi gorfod talu er mwyn sicrhau lleoliad da i’w nwyddau ar y silffoedd.

Mae posibilrwydd y bydd yr ymchwiliad yn cael ei ehangu i gynnwys archfarchnadoedd eraill os oes tystiolaeth bod yr arferion hyn yn digwydd gyda chwmnïau eraill.

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco eu bod yn cydweithio gyda’r dyfarnwr a’u bod yn newid y ffordd maen nhw’n gweithio gyda chyflenwyr.

‘Diwrnod hanesyddol’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes ei fod yn “ddiwrnod hanesyddol” i’r dyfarnwr a bod y cyhoeddiad heddiw yn dangos bod gan y corff “ddannedd”.

Ychwanegodd ei fod wedi sicrhau deddfwriaeth er mwyn caniatáu i’r rheoleiddiwr roi dirwyon sylweddol i unrhyw archfarchnadoedd sy’n eu cael yn euog o drin eu cyflenwyr yn annheg.