Mae 92% o bobol Cymru yn fodlon hefo’r gofal sy’n cael ei ddarparu gan feddygon teulu a 91% yn fodlon â’r gofal o fewn y Gwasanaeth Iechyd (GIG), yn ôl arolwg sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.
Fe wnaeth 14,500 o bobol dros 16 oed gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n holi trigolion am eu barn ar wasanaethau yn eu hardaloedd lleol.
Yn 2013-14, roedd yr arolwg yn gofyn i bobol werthuso’r gofal maen nhw wedi’i dderbyn gan y GIG, y gwasanaethau sy’n cael eu cynnig a’r mynediad i’r gwasanaethau.
Gwelwyd bod:
- 94% o bobol aeth i apwyntiad ysbyty wedi medru pennu amser a dyddiad oedd yn gyfleus iddyn nhw.
- 77% o’r rhai a holwyd wedi gweld eu meddyg teulu yn y 12 mis diwethaf. Roedd 92% yn fodlon (68% yn fodlon iawn a 24% yn rhannol fodlon) gyda’r gofal a dderbyniwyd.
- 42% o’r rhai a holwyd wedi mynd i apwyntiad ysbyty yn y 12 mis diwethaf. Roedd 91% yn fodlon (70% yn fodlon iawn a 21% yn rhannol fodlon) gyda’r gofal a dderbyniwyd.
- 84% yn dweud bod gan eu meddyg teulu yr holl wybodaeth berthnasol amdanyn nhw.
- Pobol sy’n gweithio yn ei chael hi’n anoddach gwneud apwyntiad cyfleus gyda’u meddyg teulu.
Mae’r canlyniadau yn cael eu defnyddio i fesur gwelliant yn erbyn targedau Llywodraeth Cymru.
‘Hyder yn y GIG’
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos bod gan bobol Cymru hyder yn ein GIG, ac yn gwerthfawrogi’r gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu.
“Mae gweithwyr iechyd yn gwneud gwaith ardderchog bob dydd. Rydym yn darparu gwasanaeth ar raddfa ddiwydiannol o dair miliwn o bobol.
“Bydd rhai adegau lle nad yw pobol yn cael y gwasanaeth o’r safon gorau ond mae’r profiad arferol sydd i’w gael o dan ofal y GIG yn dangos lefel uchel o fodlonrwydd.”