Mae yna “gamddealltwriaeth” sylfaenol ymysg gwleidyddion a gweision sifil yng Nghaerdydd o waith Mudiad Ffermwyr Ifanc Cymru, yn ôl cadeirydd y mudiad sydd newydd golli grantiau gwerth £360,000.

Yr wythnos diwethaf fe glywodd y mudiad eu bod nhw wedi bod yn aflwyddiannus â cheisiadau grant werth £120,000 y flwyddyn am dair blynedd gan Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Ond fe lwyddodd mudiadau Urdd Gobaith Cymru, Gwobr Dug Caeredin, Boys and Girls Clubs, Girl Guiding, UNA Exchange, Youth Cymru a Scouts Wales i sicrhau arian grant oddi wrth gynllun Grantiau Cyrff Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol (NVYO) y llywodraeth.

Fe awgrymodd cadeirydd y Mudiad Ffermwyr Ifanc eu bod nhw’n haeddu’r arian grant yn fwy na rhai o’r cyrff eraill fydd yn parhau i dderbyn grantiau.

“Mae’n rhaid bod ‘na gamddealltwriaeth o beth ydi’r Ffermwyr Ifanc lawr yng Nghaerdydd,” mynnodd y cadeirydd Iwan Meirion.

“Mae’r gwasanaethau ‘da ni’n cynnig i’n haelodau ar draws Cymru yn rhai ddylai’r awdurdodau lleol fod yn eu cynnig.

“Dw i’n meddwl ein bod ni’n cyrraedd yn bellach na beth mae mudiadau eraill ac awdurdodau lleol yn ei wneud, felly ‘da ni’n teimlo tra bod ‘na grantiau ein bod ni’n llwyr haeddiannol ohonyn nhw.”

Rhagor yn rhifyn Golwg yr wythnos hon.