Y grŵp gwerin 9Bach yw’r grŵp cyntaf erioed o Gymru i gael ei enwebu yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2.

Fe fydd y grŵp o ardal Bethesda, Eryri yn cystadlu yng nghategori’r Albwm Gorau gyda ‘Tincian’ ac fe fydden nhw hefyd yn perfformio yn y digwyddiad yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd ar 22 Ebrill.

Bydd y gwobrau sy’n dathlu sin cerddoriaeth gwerin Prydain yn cael eu cynnal am y 16eg tro ac yn cael eu harwain gan y cyflwynydd Radio 2 Mark Radcliffe a’r gantores Julie Fowlis.

Ymysg y perfformwyr eraill ar y noson fydd Yusuf / Cat Stevens, Kate Rusby a Loudon Wainwright III.

Mae degau o negeseuon o gefnogaeth wedi eu cyhoeddi i 9Bach ar wefannau cymdeithasol, gan gynnwys: