Carwyn Jones
Mae gobaith y gall 5,000 o swyddi gael eu creu wrth i Lywodraeth Cymru adeiladu ffordd newydd ar draws parth menter Glannau Dyfrdwy yn Sir y Fflint.

Bydd y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cyhoeddi’r datblygiad newydd wrth iddo ymweld â’r safle yng Nglannau Dyfrdwy heddiw.

Dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth y bydd y gwaith yn dechrau flwyddyn nesa’ ar safle Porth y Gogledd ac y bydd yn cymryd tua phum mlynedd i’w gwblhau.

Wrth ymweld â’r ardal fenter heddiw mae disgwyl i’r Prif Weinidog Carwyn Jones ddweud bod gan y datblygiad y potensial i gyflogi 5,000 o bobol.

“Mae hwn yn brosiect hynod bwysig i’r gogledd – mae iddo’r potensial i ddenu buddsoddiadau a swyddi newydd i’r ardal. Y ffordd fynediad newydd yw’r catalydd fydd yn sbarduno’r buddsoddiadau newydd,” meddai.