Ysgol Dewi Sant yn Nhyddewi
Fe fydd rhieni a disgyblion yn Nhyddewi yn cynnal cyfarfod cyhoeddus heno i drafod bwriad i gau chweched dosbarth Ysgol Dewi Sant.
Roedd cynghorwyr wedi bwriadu cau unig ysgol uwchradd y ddinas yn gyfan gwbl, ond fe wnaed tro pedol yr wythnos diwethaf wedi 300 o bobol brotestio yn erbyn y cynlluniau.
O dan gynllun newydd, fe fydd yr ysgol yn aros yn agored i ddisgyblion 11-16 oed ond fe fydd disgyblion y chweched dosbarth yn cael eu trosglwyddo i Goleg Sir Benfro yn Hwlffordd – sydd 17 milltir i ffwrdd o Dyddewi.
Mae cynlluniau eraill gan Gyngor Sir Benfro yn cynnwys cau ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol Ysgol Syr Thomas Picton.
Mae Cyngor Sir Benfro hefyd wedi bod yn trafod argymhelliad i greu ysgol Gymraeg 3-16 newydd yn Hwlffordd.
Bydd y cynllun ar gyfer ad-drefnu addysg bellach yn destun cyfnod o ymgynghori.