Teulu'r peilot Muath al-Kaseasbeh yn dangos eu dicter yn dilyn ei lofruddiaeth
Mae brenin Gwlad yr Iorddonen wedi bygwth rhyfel “ysgytwol” yn erbyn mudiad eithafol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi iddyn nhw losgi peilot o’r wlad yn fyw a rhyddhau fideo o’r llofruddiaeth.
Mae’r weithred wedi ennyn dicter ledled Gwlad yr Iorddonen gyda channoedd yn ymuno mewn protestiadau yn y brif ddinas Amman.
Fe wnaeth Brenin Abdullah II ddychwelyd yn gynnar o’r Unol Daleithiau i gynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr byddin y wlad.
Mewn datganiad, dywedodd y brenin bod Gwlad yr Iorddonen yn barod i lansio rhyfel ysgytwol yn erbyn yr eithafwyr Islamaidd gan fod IS nid yn unig yn brwydro yn erbyn y wlad, “ond yn erbyn crefydd Islam a’i werthoedd.”