Mae’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews wedi croesawu ymgyrch sydd wedi cael ei sefydlu i annog cynifer o bobol ifanc â phosib i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol ar Fai 7.
Mae pryder y bydd nifer isel iawn o bobol ifanc yn ymdrechu i bleidleisio, a nod ‘Bite the Ballot’ yw sicrhau bod cynifer o bobol ifanc â phosib yn cofrestru er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio.
Mae’r ymgyrch wedi penderfynu cynnal Diwrnod Cenedlaethol Cofrestru Pleidleiswyr heddiw, a hynny mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr.
Yn ôl yr ymgyrch, myfyrwyr sy’n byw oddi cartref sydd â’r risg mwyaf o golli eu pleidlais.
‘Miloedd mewn perygl o golli eu pleidlais’
Dywedodd Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews: “Mae’n destun pryder bod y newid o gofrestru Cartrefi i gofrestru Unigolion wedi effeithio ar bobl ifanc yn bennaf.
“Gall miloedd fod mewn perygl o golli eu pleidlais oni fydd camau’n cael eu cymryd ar frys. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos myfyrwyr sy’n byw oddi cartref.
“Rydyn ni’n rhoi ein cefnogaeth lawn i’r ymgyrch gan ‘Bite the Ballot’ ac Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru sy’n anelu at gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cofrestru i bleidleisio. Rwyf wedi cyfarfod â’r Undeb ac â’r Comisiwn Etholiadol, ac yn fuan byddaf yn cyfarfod â ‘Bite the Ballot’ i drafod y materion hyn.”
‘Dyletswydd’
Ychwanegodd Leighton Andrews: “Mae hwn yn fater pwysig ac rydym yn edrych am ffyrdd o wella’r sefyllfa. Rydyn ni wedi ysgrifennu at bob Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru i ofyn iddyn nhw ymhle mae’r ffigurau cofrestru isaf a beth maen nhw’n ei wneud am y peth.
“Mae’n ddyletswydd ar bawb ohonom i gofrestru er budd democratiaeth. Ni ddylai unrhyw un sy’n gymwys i bleidleisio fod ar ei golled. Mater hawdd yw cofrestru ac rydyn ni am i bobl wybod pa mor hawdd ydyw. Rwy’n canmol ‘Bite the Ballot’ am eu gwaith yn y maes hwn.”
‘Goblygiadau’
Yn y cyfamser mae ymchwil yn awgrymu nad yw un o bob tri o bobol 18-24 sydd heb gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yn deall goblygiadau ehangach peidio cofrestru.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, fe fu cwymp o 47% yn nifer y bobol sydd wedi cofrestru cyn yr etholiad o’i gymharu â blynyddoedd cynt.
Yn ôl yr ymchwil gan Experian, fe allai diffyg ymdrech i bleidleisio effeithio ar les ariannol y garfan hon yn y gymdeithas, eu hagor i dwyll hunaniaeth a’u hatal nhw rhag cael pasbort, hyd yn oed.
O blith unigolion 18-24 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio, dywedodd un o bob pump mai rhywun arall oedd wedi cofrestru ar eu rhan nhw, gan gynnwys aelod o’r teulu neu’r brifysgol.