Mae cynnydd bychan wedi bod yn nifer y bobol sy’n gwrando ar Radio Cymru, yn ôl ffigyrau diweddaraf yr orsaf.

Yn ystod mis Hydref a mis Rhagfyr 2014, roedd cynnydd o 1,000 o wrandawyr, sy’n golygu bod 106,000 yn gwrando ar Radio Cymru.

Daw wedi i nifer y gwrandawyr ostwng i’w lefel isaf erioed rhwng mis Gorffennaf a mis Medi’r llynedd, i 105,000 o bobol.

Angen cryfhau

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Mae ffigyrau diweddaraf RAJAR yn dangos cynnydd yn ffigyrau Radio Wales ac mae ffigyrau gwrandawyr Radio Cymru wedi aros yn gyson.

”Fel sy’n arferol, byddwn yn edrych ar y manylion yn ofalus ac yn gweithio i gryfhau ein gorsafoedd ymhellach.”

Fe wnaeth 427,000 wrando ar Radio Wales – cynnydd o 29,000 o bobol ers mis Medi.