Mae BT wedi cytuno i brynu cwmni ffonau symudol mwyaf Prydain, EE, mewn cytundeb gwerth £12.5 biliwn.
Bydd y cytundeb yn cael ei ariannu’n rhannol gyda chyfrannau gwerth £1 biliwn.
Yn dilyn y cytundeb, bydd gan berchnogion presennol EE, Deutsche Telekom ac Orange, gyfran o 12% a 4% yn BT. Fe fydd Deutsche Telekom yn cael cadw sedd ar y bwrdd.
Dywedodd prif weithredwr BT, Gavin Patterson bod y cytundeb yn “garreg filltir sylweddol” i BT.
Roedd y grŵp wedi cyhoeddi ym mis Rhagfyr ei fod mewn trafodaethau i brynu EE.