Leighton Andrews
Mae aelod o Gabinet Cyngor Conwy wedi beirniadu’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews yn sgil y Papur Gwyn, ‘Grym i Bobl Leol’ ynghylch gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a gyhoeddwyd ddoe.
Mewn datganiad, dywed Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Ronnie Hughes fod y Cabinet yn “siomedig nad oes strategaeth gydlynol ac amserol yn dal i fodoli ar gyfer cyflwyno a gweithredu’r diwygiadau i wasanaethau cyhoeddus”.
Mynegodd y Cyngor bryder hefyd fod gan Lywodraeth Cymru ormod o reolaeth dros wasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â’r ieithwedd a gafodd ei defnyddio wrth feirniadu cynghorwyr lleol.
Ymhlith y cynigion yn y Papur Gwyn mae lleihau cost gwleidyddiaeth a rheolaeth ym maes Llywodraeth Leol. Dywedodd Leighton Andrews y bydd yn cynnal adolygiad o gyflogau cynghorwyr, arweinwyr ac aelodau cabinet, er mwyn lleihau cyfanswm y gost, yn unol â rhannau eraill o’r DU.
Mae cynnig hefyd i gyfyngu ar y cyfnod y gall unigolyn fod yn gynghorydd i 25 mlynedd.
‘Amharchus’
Ychwanegodd Ronnie Hughes: “Yn amlwg nid yw Llywodraeth Cymru yn ymddiried mewn cabinetau lleol, cymunedau lleol a chynrychiolwyr etholedig lleol i wneud y penderfyniadau cywir.
“Nid yw’r iaith amharchus ac eithafol a ddefnyddir gan y Gweinidog i gategoreiddio a phardduo cynghorwyr yng Nghymru heddiw yn fuddiol o gwbl ac mae’n ymddangos mai ei fwriad yw tanseilio eu gwaith caled ar ran eu cymunedau.”
Yn ôl Ronnie Hughes, mae rheoleiddwyr yn cydnabod fod y Cyngor yn “perfformio’n dda”, ac mae’n dweud bod y Cyngor wedi cydymffurfio â dymuniad Llywodraeth Cymru i ystyried uno “er mwyn cyflwyno arbedion effeithlonrwydd”.
Ychwanegodd: “Mae’r cynigion hyn yn cael eu gorfodi gan Lywodraeth Cymru a ddewisodd beidio ag ymgynghori â Chynghorau cyn gwneud ei gyhoeddiad.
“Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y corff sy’n cynrychioli Awdurdodau Lleol, wedi cyhoeddi datganiad sy’n ymddangos ei fod yn croesawu’r cynigion heb air o ymgynghori â’r cynghorwyr y maent i fod i’w cynrychioli.
“Nid yw Cabinet Conwy yn cefnogi datganiad CLlLC.”
‘Tanseilio’
Yn ôl Ronnie Hughes, mae’r Papur Gwyn “yn tanseilio cynghorwyr lleol, yn cefnogi cael pobol anetholedig yn gwneud penderfyniadau… ac yn argymell sefyllfa anhrefnus o safbwynt darparu gwasanaethau hanfodol”.
Mae’r Papur Gwyn, meddai, yn “ymosod ar yr egwyddor sylfaenol o ddatganoli grym”.
“Mae’r rhethreg a’r geiriau yn bopiwlistaidd, ond mae gwir fygythiad yma i ddemocratiaeth leol, a diffyg ymddiriedaeth yng ngallu pobl leol i ddewis pwy sy’n eu cynrychioli drostynt eu hunain.
“Nid yw’r Papur Gwyn a’r datganiadau a wnaed gan y Gweinidog, Leighton Andrews ddoe yn cyflawni’r “weledigaeth gymhellol” a addawyd ac yr oedd cryn ddisgwyl amdani.
“Nid yw’n cynnig unrhyw eglurder o ran y nifer o gynghorau sir y maent eisiau, mae’n gadael staff a chynghorwyr yn ddryslyd ac yn bryderus ynghylch dyfodol llywodraeth leol.
“Nid yw hyn yn arweinyddiaeth effeithiol wrth ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae’n amlwg fod agenda arall ar waith yma a honno’n un nad yw er budd democratiaeth leol.”
Mae disgwyl i’r Cyngor ymateb i Lywodraeth Cymru cyn Ebrill 28, sef y dyddiad pan fydd yr ymgynghoriad yn dod i ben.